Mae'r linell amser ganlynol wedi'i seilio ar y damcaniaethau a oedd yn dderbyniol yn 2016, ac yn dilyn trefn gronolegol esblygiad bywyd ar y Ddaear.
Mewn bywydeg, mae esblygiad yn digwydd ar draws nifer o genedlaethau o fewn genynnau rhywogaethau. Yn ei dro, mae esblygiad wedi creu cyfoeth yr amrywiaeth, a hynny ym mhob lefel biolegol: o'r deyrnasoedd i rywogaethau ac organebau unigol, ac ymhellach - i'r moleciwlau a'r protinau oddi fewn iddynt. Mae'r tebygrwydd rhwng pob un o'r rhain yn brawf iddynt oll darddu o'r un hynafiad; o'r hynafiad hwn y daeth pob rhywogaeth (boed yn fyw heddiw neu wedi'i ddifodi, gan addasu drwy'r broses a elwir yn 'esblygiad'. Mae dros 99% o'r holl rywogaethau (dros 5 biliwn ohonynt)[1] sydd wedi byw ar y blaned hon ers iddi gael ei chreu, bellach, wedi'u difodi.[2][3] Amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn ac 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw,[4] gyda tua 1.2 miliwn ohonynt wedi'u cofnodi a 86 heb eu cofnodi.[5]
|publisher=
(help); Check date values in: |date=
(help)
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search